Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Bethan Jenkins |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones AC. Roedd Bethan Jenkins AC yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Dementia UK; a’r
· Gymdeithas Alzheimer i ofyn eu barn am y ddeiseb.
Gall y Pwyllgor wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar yn y dyfodol.
2.2P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei barn am y ddeiseb. Yn amodol ar ymateb y Gweinidog, gall y Pwyllgor gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddeiseb.
2.3P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Hijinx i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes ffrydiau ariannu ychwanegol wedi cael eu cadarnhau, a pha effaith y mae'r gostyngiad mewn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau wedi ei chael ar ei waith.
3.2P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb ac yn sgîl yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Aelod Cynulliad Tor-faen, cytunwyd i ohirio ystyried y ddeiseb tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
3.3P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;
· aros am ganfyddiadau’r adolygiad annibynnol; ac
· ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i dynnu sylw at y materion sy’n parhau i beri pryder i’r deisebwyr ynghylch y gwasanaethau a ddarperir, ynghyd â’r pryderon am yr adolygiad annibynnol.
3.4P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;
· aros nes y byddai’r ymgynghoriad am wasanaethau gofal iechyd yn ne- ddwyrain Cymru yn cael ei gyhoeddi, er mwyn gweld pa gynigion a gaiff eu gwneud o ran gwasanaethau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot; ac
· ysgrifennu at Ddeoniaeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch amseriad y cyhoeddiadau.
3.5P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater, a thynnu sylw at yr ymateb diweddar a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog.
3.6P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau yn y gwaith ymchwil ac i rannu’r astudiaeth â’r Pwyllgor pan gaiff ei chyhoeddi.
3.7P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad am y ddeiseb a chytunodd i;
· holi barn rhanddeiliaid nad ydynt wedi ymateb i’r ymgynghoriad, ond y gallai eu barn fod yn ddefnyddiol: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Dogs Trust a Cats Protection;
· ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn a yw Lloegr wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r syniad hwn;
· ysgrifennu at lywodraethau yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon i ofyn a ydynt wedi ystyried y syniad hwn; ac
· ymchwilio i’r posibilrwydd o godi hyn yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.
3.8P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;
· Y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn iddo ystyried y materion hyn wrth ystyried y Bil Teithio Llesol (Cymru); a’r
· Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau ynghylch y mater hwn.
3.9P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb ac yn sgîl gwaith blaenorol y Pwyllgor ar y ddeiseb hon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
3.10 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;
· Gyngor Sir Powys i gael ei farn am y ddeiseb; a
· chael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.
3.11 P-04-402 Gweddïau Cyngor
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;
· y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a fyddai’n ystyried cyhoeddi nodyn yn crynhoi’r cyngor cyfreithiol a gafwyd ynghylch y mater hwn, fel y gwnaeth CLlLC gais amdano; ac
· Un Llais Cymru, i ofyn ei farn am y ddeiseb.
3.12 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;
· ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i dynnu sylw at yr anawsterau sy’n codi yn sgîl yr amserlennu, ac iddo ystyried y materion hyn yn fanylach, ac i ofyn a fu unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Arriva; a
· rhannu adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig pan gaiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi.
3.13 P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i;
· dynnu sylw at y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd;
· gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran yr adolygiad o’r terfyn cyflymder;
gofyn iddo gadarnhau y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol; a
· gofyn faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyflwyno’r terfyn amser diwygiedig os y caiff ei gynnig.
3.14 P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at CLlLC i ofyn ei barn am y ddeiseb.
3.15 P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytnodd i dderbyn gwahoddiad y deisebwyr i fynd allan yng Nghaerdydd i brofi rhai o’r materion a godir yn y ddeiseb drosto’i hun.
3.16 P-04-414 Swyddi Cymreig
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb mewn sesiwn breifat a chytunodd i ohirio’r drafodaeth tan gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
3.17 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddonaeth i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud.
3.18 P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chutunodd i ysgrifennu at;
· y deisebwyr i ofyn a ydynt yn teimlo y gallai’r Pwyllgor ychwanegu gwerth at y gwaith o ystyried y mater hwn, yn sgîl safbwynt y Llywodraeth; ac
· archwilio a allai Bagloriaeth Cymru gynnwys Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys.
3.19 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i gael ei farn am ohebiaeth y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniwyd y cynnig.
5. Adolygiad o gymorth Pwyllgorau
Bu’r Pwyllgor yn trafod y cymorth a roddir i bwyllgorau.